Ailddysgu

Friday 26 November 2010

Prynu llyfrau a cefnogu llyfrau Cymraeg?

Fel dwi wedi deud o’r blaen, dwi’n darllen yn gyflym, ac, wedi gwneud rhestr i weld be dwi wedi darllen eleni – mae ‘na 24 llyfr ar y rhestr – dyna un bob bythefnos - yn gyfartaledd. Fel arfer, y dyddiau yma, dwi’n archebu llyfrau o’r llyfrgell gwaith – trwy’r cyfundrefn “Document Delivery”. Dyma fy resymau am gnweud hyn:

1. Does gen i ddim lle i cadw’ nhw i gyd

2. Dwi ond eisiau cadw llyfrau dwi am ddod yn ol at, i ailddarllen, ac am fy mod yn darllen yn Gymraeg i ehangu fy ngeirfa, dwi’n darllen nofelau na fyddai i yn darllen eto.

3. Does dim bosib edrych ar llyfrau cyn prynu nhw yma yn Lloegr, a weithiau dwi’n cael llyfr dwi ddim yn hoff o o gwbl

4. Mi fysai yn ddrud i brynu nhw i gyd.

Ond dwi wedi bod yn pendroni am hyn yn ddiweddar am fy nghyfraniad (neu ddim!) i gefnogi llyfrau Cymraeg. Dwi ddim yn cofio sut ddes i ar draws y wefan, ond darganfais blog Ifan Morgan Jones - a sgwennodd Igam Ogam. Dwi wedi darllen y llyfr a do, brynais i o – achos r’oeddwn yng Nghymru ac yn medru edrych ar y llyfr – ac er meddyliais ei fod o’n rhyfedd mwynhais y cymysgedd o realiti a hud a lledrith yn y diwedd. Tydi Ifan ddim yn cyfrannu at ei flog yn aml iawn, ond yn ei gyfraniad ym mis Medi mae o wedi nodi dyfyniadau o adolygiad ei lyfr diweddar Yr Argraff Gyntaf – gan cynnwys:

“Dydw i ddim yn un am ddarllen nofelau ditectif ond rydw i wedi newid fy meddwl ar ôl darllen y llyfr yma.” a hefyd

“Rydach chi eisiau parhau i ddarllen. Mae’n nofel sy’n dechrau yn gyffrous ac yn gorffen yn gyffrous. Mae’n nofel wych.”

Dwi’n hoff iawn o lyfrau ditectif – a wedi mwynhau ei lyfr gyntaf, meddyliais baswn i’n archebu’r llyfr trwy ein llyfrgell yn y Brifysgol Agored. Ond wrth ddarllen mwy mi welais ei fod o yn annog ni i brynu’r llyfr:

rydw i wrth fy modd yn ysgrifennu ac eisiau'r cyfle i fwrw ymlaen gyda mwy o nofelau

Dwi wedi clywed Bethan Gwanas yn deud yr un peth ( a dwi am brynu Yn Ol i Gbara) – a mae o’n wir bod y byd llyfrau Gymraeg yn fach ac ynhaeddu cefnogiaeth. Felly mae’r Argraff Gyntaf yn mynd ar fy restr o lyfrau i brynu hefyd

2 Comments:

At 30 November 2010 at 15:42 , Blogger neil wyn said...

Dwi newydd archebu pentwr (ydy 5 yn cyfri fel pentwr?!) o lyfrau trwy wefan Gwales. Fydda i fel plentyn ar fore'r nadolig ar ol iddyn nhw gyrraedd (yfory gobeithio), efo'r teitlau yn cynnwys llyfr newydd Dewi Prysor, hunangofiant Non Evans. Ta waeth, digon i gadw fi'n dawel tan mis ionawr mae'n siwr!

 
At 3 December 2010 at 10:50 , Blogger Ifan Morgan Jones said...

Diolch yn dalps am brynu'r llyfr! Dw i ddim yn cyfrannu at y blog yna'n aml, ond mae gen i flog sy'n cael ei ddiweddaru bach amlach ar Golwg 360 hefyd: http://www.blog-golwg360.com/category/ifan-morgan-jones/

Rho wybod unrhyw sylwadau am y llyfr, da neu ddrwg.

Diolch,

Ifan Morgan (nid Morris ;) Jones

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home