Carolau Gobaith
Dwi wedi bod yn gwylio Carolau Gobaith – ac yn mwynhau o’n arw. Ond mae o yn gwneud i chi feddwl sut brofiad ydi o i ganu o flaen gynulleidfa. Dwi’n hoffi canu, ond dim wedi canu o flaen gynulleidfa ar wahân i eisteddfod dwp ysgol hâf yn y Fenni a hefyd mewn parti Nadolig hefo grwp bach yn y gwaith. Ac wrth sgwrs blynyddoedd yn ol, roedden ni i gyd yn canu mewn eisteddfodau Ysgol Sul – a dwi yn cofio o leiau un achlysur pan oeddwn i ddim yn medru dechrau ar y cân – mewn deuawd. Dych chi’n cofio Max Boyce (ia blynyddoedd yn ol), yn son am adrodd “Y Wiwer” – ac yn agor ei geg a dim byd yn dod allan? Wel dyna be wnes i hefyd. A mae o’n anodd cael hyder yn ol wedyn.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home