Ailddysgu

Sunday 9 January 2011

Ysgol Galan


Dwi wedi bod yn yr Ysgol Galan sy'n cael ei drefnu gan Prifysgol Bangor, ond arhosais mewn gwesty yng Nghaernarfon yn hytrach na Fangor. Dwi'n gobeithio (a meddwl) bod fy Nghymraeg wedi gwella dipyn ond pwy a ŵyr? Beth bynnag, r'oedd o'n dda bod rhywle lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg. R'oedd hefyd yn gyfle i cael paned ym Mhalas Print (mae cangen ym Mangor hefyd, rŵan, ond yn yr un yng Nghaernarfon yr es i )a chael specian o gwmpas. Ac unwaith eto wnes i brynu lwyth o lyfrau, dipyn o gerddoriaeth a.y. y.b. Baswn wedi bod yn iawn taswn i heb fynd i Oxfam Bangor. Oedd hon yn llawr o drysorau Cymraeg gan cynnwys "Golchi llestri mewn bar mitzvah" gan Ifor ap Glyn. Ron i wedi gweld adolygiad o hwn, dwi'n meddwl, ac er bod rhai gerddi aill yn rhy annodd neu dim yn siwtio fy chwant i, mae rhai eraill yn dda ofnadwy; darllenadwy, byr (weithiau) a ffraeth. Mae’r llun yn dangos rhai o’r lyfrau.

Fel llefydd arall mae amrywiaeth o gwmnia yn rhedeg y bwsiau felly talais yr un faint am daith un ffordd gyda'r Arriva a dalais am ddwyffordd gyda cwmni arall. Does dim synnwyr yn y peth!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home