Ychydig o flynyddoedd yn ol roedd gen i un
flanhigyn asbaragws, a roedden ni’n cael dipyn bach – digon i ychwanegu i salad
– a roedd o’n gwneud yn iawn felly prynais mwy i wneud gwely asparagws (wel,
hanner gwely, i fod yn gywir). Ond dydyn
nhw ddim wedi llwyddo. R’on yn meddwl
efallai faswn yn tynnu nhw allan er mwyn defnyddio’r bwlch ar gyfer llysiau
eraill. A dwi wedi clywed (oddiwrth y
dyn sy’n tyfu a gwerthu llysiau organig yn y farchnad misol) bod asparagws yn
tyfu’n iawn gyda blodau, ac wrth gwrs, unwaith mae o wedi gorffen mae o’n
edrych yn ddelfrydol gyda’r blodau). A
dyma llun o’r tiwlips – bron wedi gorffen rwan.
Efalle bydd yr asparagws yn mynd yn y gwely yma.
Mae popeth mor wyrdd ar y funud. A bore Sul, pan roeddwn yn cerdded gyda’r ci
(sydd yn cael bywyd braf iawn y dyddiau yma gan mai ci hen ydy o erbyn rwan) mi
wnes i aros i dynnu’r llun yma:
ac wrth sefyll i gymryd y llun, clwyais y
gog. Dwn im sut mae hi yng Nghymru y
dyddiau yma, ond fel arfer yn fama dwi’n clywed y gog o leiau unwaith yn y
tymor – ond yn aml – dim mwy na hynny.
A dydd Gwener dwi'n mynd i Chelsea - felly efalla bydd lluniau gwahanol yn y blog nesaf!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home