Ailddysgu

Monday 13 May 2013

Cnwd annisgwyl a mwy o'r ardd


Yn fy mhrofiad i, ar ol casglu tatws o'r pridd, dim ots faint dwi'n chwilio am y tatws bach, bach ac yn clirio nhw, mae wastad tameidiau o datws ar ôl, ac erbyn y Gwanwyn mae nhw yn tyfu i fynny trwy'r pridd, ac yn ymddangos.  Ond ddoe, wrth clirio’r gwely lle  roedd tatws yn tyfu llynedd, mi gefais cnwd annisgwyl fel gwelir yn y llun.  


Mae’n rhyfedd sut mae nhw wedi tyfu mor fawr dros y gaeaf a’r gwanwyn oer, tra bod planhigion y tatws dwi wedi plannu yn fwriadol yn fach, fach, fach...

Ar y funud, mae o’n oer yma gyda cawodydd drwm bob hyn a hyn.  Ond stori gwahanol iawn wythnos yn ol, dros y Gwyl Banc, lle roedd yn bosib, o’r diwedd, dal i fynny dipyn gyda gwaith yn yr ardd.  Felly llwyddais o’r diwedd i orffen plannu’r tatws, ac i wasgaru hadau betys a sbigoglys yn yr ardd, a ffa, courgettes, ciwcymbr a squash a mwy o letys yn y tŷ gwydr.  Dyma rhai o'r planhigion bach yn y tŷ gwydr.


Ffa Borlotti ydy'r rhain.  Mae nhw'n hardd iawn, yn fy marn i.  Dyma rhai llynedd



Dwi'n edrych ymlaen at tyfu dipyn mwy eleni.  Ac wrth gwrs mae o'n bosib sychu nhw ar gyfer y gaeaf.

Ond falle ddylwn i son am y brwydrau ac y methiannau hefyd.  Mi wnes i wasgaru hadau Rudbekia "Indian Summer" - ond  - dim byd, sydd yn drueni oherwydd eu bod mor hardd a defnyddiol.  Dyma un llun ohonyn nhw llynedd


Ac un peth newydd eleni ydy'r pys.  Am ryw reswm dwi erioed wedi tyfu pys o'r blaen, ond eleni, mae rhai yn y tŷ gwydr, yn mynd allan bob dydd rwan, i galedu.  Dwi wedi cael brwydr efo'r llygod  yn y tŷ gwydr - a dyna pam mae'r pridd braidd yn oren - powdwr chili i gadw'r llygod i ffwrdd!


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home