Ailddysgu

Sunday, 3 November 2013

Penwythnos brysur


Ddoe mi es i Lundain i ymuno a cwrs undydd Cymraeg yn y Ganolfan Cymry Llundain.  Fel arfer mi gefais amser gwych - a’r diwrnod yn gwibio heibio.  Dwi yn colli - a teimlo’r diffyg siarad Cymraeg yn fama yn Lloeger, ER fy mod i’n cael sgwrs gyda Gareth bron bob wythnos ar y ffôn, a hefyd yn siarad gyda Sue a Jan sydd yn dysgu Cymraeg yn y gwaith.  R’on i hefyd yn disgwyl myn i’r Clwb Darllen yn Llundain nos Lun diwethaf - ond  - gyda’r trenau ddim yn gweithio’n iawn ar ol y storm, doedd o dim yn bosib. Felly mae o’n bwysig cymryd bob gyfle i siarad, dwi’n meddwl, ag i ddysgu dipyn bach mwy, yn ogystal a trio dim colli gormod!  Ar diwedd y ddydd, ymunodd mwy o’r Cymry Llundain a daeth Côr Eifionydd i ganu.  A roedden yn wych. Dwi wedi eu gweld yn canu ar y teledu - ond roedd bod yna yn llawer gwell, gyda ymrywiaeth ardderchog o ganeuon.  Dyma llun ohonnyn nhw (er bod yr iPhone ddim yn cymryd llun da iawn yn y sefyllfa yma).


Felly ar ôl mynd syth i barti pan gyrrhaeddais yn ôl i Milton Keynes, roeddwn wedi blino braidd bore ’ma, ond r’oedd rhaid codi i fynd allan gyda’r ci, ac am fore braf!


Ar ôl cyfnod hir o dywydd fwyn (er glawiog a gwyntog), roedd bore ’ma yn oer ond yn haelog: delfrydol felly i fwrw ymlaen gyda gosod y ffa yn yr ardd.  Mae ffa llydan yn goroesi dros y gaeaf ac yn dod ymlaen yn gynt yn y Gwanwyn - OS - dydy’r llygod dim yn bwyta’r hadau ac OS dydy’r tywydd ddim mor wlyn fel bod yr hadau yn pydru.  Ond yn sicr mae o’n werth gwasgaru’r hadau yma yn yr Hydref, os bosib.  Mae garlleg hefyd yn well os ydy o’n cael ei ddechrau yn yr Hydref. Am un reswm mae garlleg angen cyfnod oer cyn iddo datblygu - felly mae bod yn y pridd dros y gaeaf yn fantais.  Ar ôl prynhawn brysur mae’r ffa a’r garlleg yn eu gwlau newydd.  


Dim ond y nionod a’r pŷs i roi i fewn rŵan.... a wedyn archeb yr hadau sydd angen ar gyfer blwyddyn nesaf.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home