Ymweliad i Helmsley
Mi es i i briodas nai fy ngŵr dros y gwyl banc yn Helmsley yn swydd Efrog. Roedd y briodas amser cinio dydd Sul, felly dipyn o galifantio ar fore dydd Sul a darganfod bod na ardd gwych gwych: pedair acer o ardd a oedd unwaith yn rhan o’r stad mawr sydd drws nesa i’r dre (yn Duncombe Park). Ac er bod y tywydd ddim yn ddymunol iawn, doedd yna ddim glaw yn ystod ein ymweliad. Dyma ychydig o luniau o’r ardd - gardd sydd wedi cael ei adfer yn eithaf ddiweddar gan gwirfoddolwyr gyda tai gwydr enfawr a muriau fawr o gwmpas.
A mae’r ardd wir yn hyfryd, gyda dolydd, gwenyn a ieir, a phlanhigion a llysiau gwych fel y ffa llydan yn y llun yma.
Mae'r dre hefyd yn hardd iawn, ac yn hanesyddol: 'roedd y hotel yn fodlon iawn i'r ci cael gyda ni a gobeithio gawn ni gyfle i wneud ymweliad arall.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home