Digwyddiadau Cymraeg
Dwi wedi bod yn cymryd rhan mewn llawer ddigwyddiad Gymraeg yn ddiweddar: mynd i weld y Tŵr, trafod y ddrama yn Llundain yn y clwb darllen, mynd i wylio adar yng Nghaernarfon ac o gwmpas yr ardal, ymuno a’r Gwyl Ddewi Arall - a dydd Sadwrn diwethaf, mi es i’r cwrs undydd yn LLundain, yn y Ganolfan Cymry Llundain. A fel arfer, mi ges i amser gwych, a dwi’n gobeithio, mi wnes i ddysgu un neu ddau beth. Rhyfedd fel dach chi’n defnyddio ryw strwythyr yn yr iaith heb feddwl amdano ond pan dach chi’n meddwl am y peth, dach chi ddim yn gwybod yr rheol! Gofynnodd Gwen, y tiwtor, iddyn ni sgwennu brawddegau gyda ’bod’ a ’mai’ ynddynt - i ni gael drafod a deallt y gwahaniaeth. Er i fi gael nhw i gyd yn gywir, a felly medru defnyddio nhw’n iawn, doedd gen i ddim clem, tan i mi edrych yn fanwl, pryd roedd ’mai’ yn cael ei ddefnyddion a phryd ’bod’. Ond dwi’n gwybod rŵan. Dwi’n mwynhau dosbarthiadau Gwen - fel ieithydd mae gen hi ddiddordeb dwfn mewn gramadeg, a dwi angen gweithio ar fy ngramadeg - a hefyd, mae gen i ddiddordeb mewn strwythyr ieithoedd.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home