Ailddysgu

Sunday 25 January 2015

The Big Garden Birdwatch

Mi gymerais ran yn y Big Garden Birdwatch heddiw; digwyddiad blynyddolyn cael ei redeg gan yr RSPB, lle mae pobl yn cyfri’r fath a’r niferoedd o adar sydd yn dod i’r ardd neu i barc leol dros awr,  Er bod amrywiaeth o adar yn ymweld â’r ardd trwy’r blwyddyn, dwi wedi darganfod dros y blynyddoedd bod llawer ddim yn dod pan dwi’n cyfri fel hyn.

Doedd heddiw ddim yn wahannol iawn.  Roedd o’n well na’r amser welais i ddim byd.  Heddiw, gwelais 2 ddrudwy, 1 robin goch, 2 fwyalchen, 2 titw tomos las, a 2 llwyd y gwrych.  Dim byd arall yn dod i fewn i’r ardd dros yr awr dan sylw.



Ond mi wnes i wneud nodyn o’r adar a welais ben bore wrth cerdded y ci.  Dyma’r rhestr:
corhedydd y waun; titw tomos las, titw mawr, brân, crëyr las; gwylanod ben ddu, jac y do, siglen fraith, drudwy, nocell werdd, hwyaid gwyllt, ji-binc  a glas y dorlan.


Mae ’na ddigon o fywyd gwyllt o gwmpas os dach chi’n edrych, er weithiau mae ’na aderyn dwi ddim yn gweld am sbel, fel glas y dorlan - ac yn aml, chwibio heidio bydd yr aderyn.  Dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl wnes i ddysgu bod adar yn symyd o gwmpas tŷ fewn i’r wlad o dymor i dymor.  Felly mae aderyn fel corhedydd y waun, aderyn sydd yn gwneud i fi feddwl am dir uchel fel corsdir, yn dod i lawr o’r ucheldiroedd yn y gaeaf.  Mae rhai eraill un gwneud hyn hefyd, fel y gylfinir sydd weithiau yn symyd i lan y môr, ac y lleol, mae’r cornchwiglen yn symyd o’r caeau lle mae o’n nythu i ymyloedd y llynnoedd.  Y tro cyntaf i fi sylwi ar y corhedydd y waun yn y caeau dim rhy bell o’r tŷ, ron i wedi drysu, yn meddwl - mae’r rheina yn edrych fel corhedydd y waun, ond mae nhw yn y lle anghywir - ond na, mae nhw’n symyd yn y gaeaf.

Dan ni wedi bod yn ffodus iawn yn fama gyda’r tywydd: mae bron bob dydd wedi bod yn sych (ac yn aml yn heulog) am wythnosau, er iddi fod yn oer a rhewllyd weithiau ac yn bwrw dros nos yn aml.  Felly dwi wedi bod yn cymryd mantais a wedi bod allan ar y comin, yn y warchodfa natur, ac wrth y llyn i weld be sydd o’r gwmpas.  A’r gorau oedd gweld coch y berllan (dim aderyn dan ni’n gweld yn aml o gwmpas fan hyn, o gwbl) a dwy garw mwntjac.  Dydy’r rhain ddim yn brin yn fama, (dwi ddim yn meddwl) ond mae nhw’n swil.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home