Ailddysgu

Sunday 8 March 2015

Gŵyl Ddewi Arall - a llyfrau

Mi gefais amser ardderchog penwythnos diwethaf yng Nghaernarfon eto yn ymuno yn y Gŵyl Ddewi Arall.  Bethan Gwanas oedd y gyntaf i siarad ar fore Sadwrn, a fel arfer, roedd hi yn wych, (ac yn ffraeth) wrth sôn am y problemau a'r trafferthion mae hi wedi cael (ac yn cael) fel awdures.  Dwi wedi clywed hi'n siarad sawl gwaith a byth wedi cael fy siomi.  Mae gen hi llyfr newydd bach sydd newydd cael ei gyhoeddi - Bryn y Crogwr (ac ond am £1).  Ar gyfer plant hŷn mae o, i ddweud y gwir, ond os dach chi, fel y fi, yn mwynhau llyfrau plant mewn Saesneg A Chymraef, neu isio rywbeth sydd ddim rhy hir, swn i'n ei awgrymu.  Mae'n bwysig medru cael narratif gryf - stori dda - ac yn sicr mae Bethan yn gallu gwneud hynny.



Yr ail ddigwyddiad oedd clywed Ioan  Doyle yn sôn wrth Gwion Hallam am ei fugeilio a'i ddringo. Wnes i ddim wylio'r rhaglen ar S4C, dwn i'm pam, ond efallai rŵan mi fyddaf yn dal i fynny gyda clic.  Dyn ifanc, diddorol, sydd wedi gnweud gymaint mewn amser gymharol fyr, gan ei fod mor ifanc!

Gyda’r nos roedd cwis a chanu (Ciaridyms) - hwyl mewn bar eithaf newydd.


Ac er fy mod i wedi dweud na faswn yn prynu llyfrau y tro yma, mi wnes i brynu ychydig o lyfrau - yn cynnwys llyfr Bethan Gwanas (wrth gwrs) a hefyd nofel Tudur Owen, Y Sŵ.  Dwi wedi gorffen y ddau - a fel dwedais, mwynhais y stori gan Bethan, a dechreuais y Sŵ ar y trên.  Mae o’n dda iawn ac yn gwneud i fi chwerthin: yn sicr mae Tudur yn medru sgwennu - a gobeithio wir ei fod am sgwennu nofel arall. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home