Ailddysgu

Saturday 24 January 2015

Beicio,, rhaglen Dewi Llwyd a Bethan Gwanas

Un fantais mawr o decnoleg pan 'dach chi eisio cael gafael ar y Gymraeg yn Lloegr ydy'r bodolaeth o amrywiaeth o bodlediau Radio Cymru - ac os dach chi'n beicio i'r gwaith fel ydw i, cyfle ardderchog i gadw i fynny gyda'r Cymraeg. Un rhaglen dwi'n gwrando arno yn aml ydy rhaglen Dewi Llwyd ar fore Sul - dwi'n hoff o'r cymysgiad o bethau gwleidyddol, ddiwyllianol a hefyd gwrando ar y cyfweliad gyda'r gwesteion.  Wrth dod adref ar noson dywyll, oer, nos Iau, roedd bleser arbennig i ddod: Bethan Gwanas oedd y gwestai.

Mae Bethan Gwanas wedi bod yn ddylanwad pwysig arna i ers i fi ddechrau ailddysgu.  Wrth siarad â Dewi roedd hi'n dangos ei hangerdd tuag at lyfrau yn gyffredinol ac yn son am y ffordd mae hi wedi bod yn brwydro i gael fwy o ddarllenwyr Cymraeg i ddarllen yn y Gymraeg, ar ôl sylwi nad oedd ei ffrindiau yn darllen llyfrau Cymraeg.  Pan ddes i yn ol i'r Gymraeg, yr unig llyfrau ro'n yn cofio darllen pan yn blentyn oedd Llyfr Mawr y Plant (yn ôl fy nghof i roedd copi yn bron bob un tŷ yn yr ardal), ac O Law i Law, llyfr a ddarllenais yn yr ysgol, ond doeddwn ddim yn cofio dim byd am y llyfr honno.  Felly ar ol dechrau gyda lyfrau i ddysgwyr, roedd llyfrau Bethan yn lle wych i ddechrau ar llyfrau Cymraeg.  A dwi wedi parhau i ddarllen ei llyfrau hi trwy'r blynyddoedd.  Dwei'n eitha sicr fy mod i wedi darllen bob un (yn cynnwys llyfrau i blant, hefyd: dwi wastad wedi hoffi darllen llyfrau plant, a mae llyfrau Bethan yn arbennig o dda).

Felly, dwi'n gobeithio'n wir bod ei llyfrau wedi dod a darllen i'r rhai and oedd yn darllen llyfrau Cymraeg, ac yn edrych ymlaen i'r llyfr nesaf!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home