Ailddysgu

Sunday 22 February 2015

Rhwng Gaeaf a Gwanwyn

Y prynhawn yma mae’r glaw yn pistillio i lawr - a llawer gwell swatio ar y soffa na mynd allan i gerdded y ci (lle mae fy ngŵr ar y funud.  Ond dwi’n medru osgoi’r cerdded oherwydd 1) es i allan am awr ben bore a 2) mae gen i glun boenus).  Felly does dim modd mynd allan i’r ardd - a dim llawer o chwant i fynd i’r tŷ gwydr chwaith.

Ond o’r diwedd, ddoe, mi rhois hadau letys i fewn, a rocet, a dechrau clirio gwely yn y tŷ gwydr ar gyfer hadau salad.  Dan ni wedi cael rywfaint trwy’r gaeaf, ond, fel gwelwch chi, dydy’r dail ddim yn edrych mor dda erbyn hyn.  Amser i ddechrau o’r newydd.  Ond gan fy mod i’n defnyddio’r pridd yn y tŷ gwydr trwy’r blwyddyn bydd rhaid rhoi dipyn o faeth i’r pridd cyn dechrau eto.   Ond o leiau mae’r hadau wedi mynd i fewn.


A roedd un greadur fach yn dechrau deffro yn y tŷ gwydr hefyd.  Llyffant wedi bod yn aeafgysgu dan darn o babur brown trwchus - un a oedd yna i gysgodi’r pupurau yn y tywydd rhewllyd.  


Roedd o i weld fel ei fod am ddeffro, ond rhois y duvet yn ôl amdano.  A falle, unwaith mae o wedi deffro bydd yn awyddus i fwyta’r malwod a ballu yn y tŷ gwydr.  Dwi’n meddwl bydd na grifft cyn bo hir.  Dwi wedi gweld llyffantod yn symud yn y pwll  yn barod.  Tua dechrau mis Mawrth, fell arfer, bydd y grifft yn ymddangos.

Allan ar y comin bore ’ma roedd y tywydd yn ddigon braf, ac yn oer.  




Roedd y pwll yn y fan yma wedi rhewi eto, a’r gwynt yn oer, ond digon o haul bore ’ma - a’r cydyll coch yn hela eto (ond yn troi ei chefn ata i heddiw).  Ond mae’r ehedydd wedi bod yn canu ers wythnos diwethaf, felly dwi’n gobeithio bod Gwanwyn ar y ffordd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home