Ailddysgu

Tuesday 3 March 2015

Cymraes yn MK: mynd i weld Y Tŵr yn Llundian gyda'r Grwp Darllen Llundain

Mae o wedi bod yn gyfnod brysur iawn i’r hanner ohonof i sy’n Gymraes.  Dydy Milton Keynes ddim yn llawn o bobl Gymraeg ond, fel dwi wedi dweud o’r blaen, fasech chi’n synnu faint sydd o gwmpas. Mae MK hefyd yn ddigon agos i Lundain – felly roedd o’n bosib mynd i weld Y Tŵr, yn Llundain, yn ôl ym mis Chwefror.  Y cwmni Invertigo, oedd yn gyfrifol am y gynhyrchiad o Saer Doliau, oedd hefyd yn cynhyrchu y Tŵr, gyda dau actor a welson ni yn  y Saer Doliau:Catherine Ayers a Steffan Donnelly a’r un cyfarwyddwr, Aled Pedrick.  Roedd yr adolygiadau yn bositif iawn: gwelir adolygiad o'r Daily Post yma  ac adolygiad o'r perfommiad yng Nghaerdydd yma .

Mi es i yna i weld y drama gyda cyfeillion o’r grŵp darllen Llundain yn theatr yr Arcola, ac yn ein cyfarfod nesaf, y Tŵr (y llyfr ac y ddrama) oedd y pwnc.  Daeth 8 ohonon ni i’r gyfarfod yna.  Wnes i ddim cymryd nodiadau, ond dwi’n meddwl ei fod yn gywir i ddweud ein bod i gyd wedi mwynhau y ddrama, er bod y gair ’mwynhau’ efallai ddim yn addas.  Roedd rhai ohonyn ni wedi teimlo’n emosiynol ar ddiwedd yn ddrama. Ac er bod rhai ohononi hefyd yn meddwl bod y ddrama wedi dyddio mewn sawl ffordd, eto roedd o yn bwerus, ac yn gnweud i ni feddwl am amser, a threiglad amser a sut bod pethau yn newid dros amser hyd yn oed pan mae nhw’n aros yr un fath.

Yn bendant, mae o’n fraint medru mynd i weld ddrama Cymraeg o’r safon yma yn Llundain a gobeithio bydd  Invertigo yn ystyried cynhyrchu ddrama Cymraeg eto cyn rhy hir.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home