Yn ôl yn Lloegr gyda fy llyfrau
Dipyn o newid, mynd yn ôl i’r gwaith wythnos diwethaf ar ol gwyliau hir dros y Dolig – hirach nac arfer ar ol cymryd wythnos o wyliau i fynd i’r Ysgol Galan. Ond, wrth dod yn ôl i’r byd Saesneg, gan fod y tywydd digon dda (yn ystod y dydd, beth bynnag) i feicio i’r gwaith, dyma’r cyfle i ddal i fynny gyda’r podlediau. Ac ar y bedwarydd o Ionawr, Llwyd Owen oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd: mae’r podlediau o’r rhaglen ar gael yn fama
Dwi wastad wedi mwynhau llyfrau Llwyd Owen, ers i fi ddarllen Mr Blaidd (felly mae o’n amlwg nad ydw wedi darllen eu lyfrau yn y trefn cywir: wrth weld y rhestr, death tair nofel cyn honno). R’on wedi prynu Y Ddyled yn barod, a mi roedd yn aros amdanaf ar y bwrdd ger y gwely, felly gwych roedd cael clywed bod Llwyd Owen yn meddwl mai hon, falle, ydy’r gorau.
Ond cyn dechrau ar Y Ddyled, mi wnes i ddarllen Sais: un o’r llyfrau a phrynais yng Nghaernarfon: nofel can Alun Cobb. Dwi wedi mwynhau llyfrau Alun Cobb, hefyd, a roedd hwn yn sownio’n ddiddorl. Ac yn wir i chi, mae o’n wych! Stori o fewn stori ydy o, gyda’r nofelydd ei hyn yn brif gymeriad. Ar ol i Alun sgwennu nofel o’r enw Sais, lle mae llofruddiaeth yn digwydd, mae llofruddiaeth ‘copycat’, yn digwydd yn y byd go-iawn (yn y nofel, beth bynnag) ac Alun sydd dan ddrwgdybiaeth, am sbel, beth bynnag. Mae (o leia) dwy stori yn rhedeg ochr ar ochr yn y nofel yma: fel mae o’n dweud ar y clawr, “stori o fewn nofel, o fewn nofel ac Alun Cob yn eich tywys ymhellach i mewn i grombil y cwlwm tywyll.” Yn sicr mi ges fy nhynnu i fewn ac yn cael hi’n annodd i roi’r llyfr i lawr. Nofel ddyfeisgar iawn: y gorau eto, yn fy marn i.
Felly dwi wedi cael sbel dda iawn gyda llyfrau yn ddiweddar. Fel dwedais yn y blog diwethaf, roedd "Dan Ddylanwad" yn wych hefyd: dwi ond wedi darllen tamaid bach o’r Ddyled hyd at hyn, dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y weddill.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home