Ar wahan i heddiw [o, ia, a hefyd dydd Sadwrn diwethaf], mae’r tywydd braf, heulog a gynnes wedi parhau yn fama. Dwi wedi bod yn arbrofi i weld faint o wahanol teithiau cerdded sydd yn bosib o’r cefn drws mewn awr a hanner neu awr a chwarter. Fel arfer does dim digon o amser i fynd am ddwy awr yn y bore. A felly, does dim gymaint o ddewis, oherwydd mae o’n cymryd ryw ugain funud i hanner awr i gyrraedd y llefydd mwy ddiddorol - ar wahan i gerdded ar y comin [ond weithiau mae’n braf cael newid bach].
Penwythnos diwethaf mi es i fynny i’r gamlas,
a hefyd rownd llyn bach sydd ddim rhy bell i ffwrdd, o’r enw ’Tongwell’,
ond erbyn dydd Sul, yn ôl i gerdded ar y comin, sydd mor braf, a gyda mwy o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt. Dyma un creadur dwi erioed wedi gweld [yn fyw]:
llŷg - un gyffredin swn i’n meddwl - yn ôl llyfr Natur Iolo, mae’r cynffon yn mesur tua hanner hyd y corff. Ond rhai wedi marw dwi wedi gweld, erioed.
Yn ôl yn yr ardd, mae llai o amser rŵan gyda’r tywyllwch i’w weld yn dod yn gynt bob nos. Dwi’n trio rhoi hadau i mewn ar gyfer y gaeaf, ond mae’r malwod, a’r gwlithod, yn cael gwledd.
Fel gwelir yn y llun, mae'r rhan fwyaf o'r dail bach wedi cael eu bwyta!
Er hynny, mae’r aubergines yn gwneud yn eitha dda [dwi’n trio anghofio’r un gyda gwlithen enfawr ty fewn iddo fo],
a’r basil, a’r tomatos, felly mi wnes i drio ryseit gan Ottolenghi o’r papur newydd. Braidd yn gymleth mewn llefydd - ond yn flasu’n dda.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home