Mae’r hanner gyntaf wedi bod yn dda iawn: digon o
heulwen, a glaw yn dilyn, felly yn fama, beth bynnag, mae popeth yn wyrdd.
Dyma rhai o luniau diweddar o’r add: (bob dydd mae rhywbeth newydd yn blodeuo, bron)
Ac wrth fynd am
dro ar y comin yn gynnar bore Llun, mi welais ehedydd ar y llwybr, a oedd digon
glen i adael i fi gymryd llun. Rŵan bod Milton Keynes yn tyfu ( a wedi
tyfu) a tai newydd i lawr y lôn, mae’r comin yn brysur: pobl yn rhedeg, plant
yn chwarae (ond dim am saith yn y bore!) ac wrth gwrs, cwn. Eto, mae’r
ehedydd yn llwyddo, rywsut, a dwi’n falch iawn gweld hynny.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home