Rhywsut, rhwng gwaith (yn enwedig
gwaith marcio), hyfforddi’r ci, cerdded gyda’r ci, garddio a bywyd bob dydd dwi
ddim wedi llwyddo i gyfrannu at y flog yma am dipyn. Yn yr ardd, mae’r
tywydd, a’r bywyd gwyllt wedi bod yn heriol, yn sicr. Ar ôl wythnos oer,
diflas, tywydd poeth sych a wedyn storm fawr, a wedyn tywydd sych a poeth eto.
A fel arfer yr amser yma o’r flwyddyn, rhedeg o gwmpas yn trio symud yr
holl blanhigion o’r tŷ gwydr i fewn i’r ardd, gyda dipyn o lwydddiant a dipyn o
fethiant. Yn fama, mae’r gwlithod a’r malwod yn cael tymor arbenning o
dda. Dyma’r courgettes ar ôl un noson yn yr ardd:
Defnyddiais “SlugGone“ sydd wedi eu
gnweud o wlan defaid ac yn arbenning o ddrud - ond mi wnaeth o weithio llynedd.
(Gyda llaw, mae cyfle arbennig i ffermwyr gyda defaid i wneud rhywbeth
debyg ond yn costio pris mwy derbyniadwy - os nad ydy ’patent’ wedi gwneud
hynny’n amhosib). Ond eleni - yn amlwg, wnaeth o ddim gweithio. A
falle bod y ffaith bod y gwely ar gyfer y courgettes yn agos i rhan o’r ardd sydd wedi mynd braidd yn wyllt gyda llawer o chwyn - lle ddefrydol i falwod a
wlithod cuddio - ddim yn helpu. Yn y tŷ gwydr o’r diwedd mae’r tomatos
a’r aubergines a’r pupurau a basil i gyd yn y pridd, er bod yr aubergines a’r
pupurau ddim yn edrych rhy dda. Dyma sut oedd rhan o'r tŷ gwydr yn edrych ychydig yn ol a'r planhigion i gyd yn aros i fynd i'w llefydd....
Mae’r dahlias wedi mynd i mewn
hefyd, a hyd at hyn dim wedi cael eu bwyta i gyd, ond dwi wedi colli rhai o’r
cosmos, yn bendant. Dim byd i’w gwneud ond rhoi hadau i fewn unwaith eto,
neu prynu planhigion o’r ganolfan garddio.
Yn ddiweddar dwi wedi bod allan bron
bob dydd yn y bore gyda’r ci, yn aml yn fuan ar y comin, a mae o wedi bod yn
hyfryd. Dwi’n gweld (neu clywed) pedwar neu pump fath o aderyn yn gyson:
yr ehedydd, y llwydfron, bras y cyrs, corhedydd y waun a weithiau’r llinos, y
nico a’r llinos werdd. A braf iawn ydy eu gweld nhw.
Dyma bras y cyrs; adar hardd, a dyma corhedydd y waun.
Does dim llun o'r llwydfron ar y comin, ond dyma lun o un with yml Nantgwrtheyn:
Os
dwi’n cael cyfle i fynd i lawr i’r cae isaf, wrth yr afon, dwi hefyd yn edrych
yn y cae sydd drws nesaf i’r cae yma, lle mae gwenith yn cael eu dyfu a lle mae
coed yn tyfu yng nghefn y cae. Yn fam, weithiau mae llwynog i’w gweld yn
y bore yn chwilota o gwmpas y coed, a gwell eto, sgwarndogod yn y cae, ond dwi
ddim wedi gweld un eleni. Ond bore ddoe, roedd carw mwntjac yn pori yng
nghefn y cae. Rhy bell i gael llun da yn anffodus.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home