O’r diwedd, dwi’n cyfranu at y flog yma. Heb gwneud am dipyn. Ac unwaith eto mae’r tecnoleg yn fy erbyn i. Unwaith, roedd y lluniau ar yr iphone yn cael eu rhoi i’r cyfrifiadur unwaith wedi i’r ddau cael cysylltiad, ond rŵan dydy o ddim yn digwydd fel yna bob tro. Ac yn sicr dim heddiw, am ryw reswm.
Beth bynnag. Dwi ddim yn yr Eisteddfod a dim yn medru mynd eleni. Blwyddyn nesaf, gobeithio. Dwi wedi bod yn gwylio’r barcutiaid lleol yn ddiweddar. Mae un neu ddau i’w gweld o gwmpas y dref yma, a weithiau yn hedfan uwchben y comin, lle byddaf yn mynd a’r ci am dro.
Wythnos yn ôl, cafodd y gwair ei dorri.
Mae’r gwair yn cael ei adael i dyfu drwy’r rhan fwyaf o’r haf, a mae hynny’n beth dda - yn denu adar i hela a nythu, a ieir bach yr haf (ond dim llwyddiant gyda tynnu llynau o’r rheina).
A tuag at ddiwedd mis Gorffenaf, mae’r gwair yn cael ei dorri. Ac ar ol hynny, roedd y barcutiaid ym mhobman - wel dyna sut oedd o’n teimlo. Pump ohonyn nhw. Yn amlwg roedd o’n llawer haws cael gafael ar y llygod bengron.
Mae’n rhyfedd meddwl bod y barcud mor brin ddeugain mlynedd yn ôl, ac yn sicr yn aderyn Cymreig. Ond ryw bum mlynedd yn ôl (os dwi’n cofio’n iawn) roedden yn gweld y barcutiaid gyntaf yn yr ardal yma. Roeddent wedi eu sefydlu o gwmpas y Chilterns - dim mor bell i ffwrdd, a hefyd roedd rhai ryw bump ar hugain milltir i’r gogledd, a roedden ni’n dechrau gweld ambell i un yn fama. Erbyn heddiw, dan ni’n gweld un neu dda yn eithaf aml. Ond dwi erioed wedi gweld pump gyda’i gilydd o’r blaen. A mae nhw’n adar hardd iawn.
Ond dwi ddim wedi cael llun da eto - a gyda’r gwair wedi ei gasglu rŵan, does dim gymaint o farcutiaid o gwmpas. Duma beth sydd gen i.
Felly, bydd angen amynedd, amser a’r golau iawn!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home