Dwi’n
dallt bod y gog yn dal ei dir yng Nghymru - ond dim felly yma yng nghanol
Lloegr, o gwmpas Milton Keynes. Felly ’roedd yn hyfryd clywed y gog wythnos diwethaf, (am y
tro gyntaf eleni) yn y warchodfa natur lleol - ond dwy filltir i ffwrdd.
Er nad ydy hi’n bell i ffwrdd, mae’r cynefin yna yn addas i’r gog: digon
o goed a llecynau gwlyb lle mae’r telor y cyrs yn nythu.
Bob
blwyddyn mae’r warchodfa yn trefnu ’warbler walk’ - taith telor, efallai, yn y
Gymraeg, a’r syniad ydy i weld pa deloriaid ydan ni’n clywed - a, wiethiau, yn
gweld, ond mae hynny’n fwy anodd. Mae’r dyn sydd yn tywys y taith yn
arbenigwr ar adnabod adar o’r cân. Ond dwi’n ei cael hi’n anodd, mae
rhaid dweud. Beth bynnag, roedd hi’n noson hyfryd, a digon o adar o
gwmpas, yn cynnwys digon o deloriaid, fel: telor y cyrs; telor cetti; siff-saff
a telor yr helyg. Mae’r rhain i gyd braidd yn debyg, (’small brown jobs’
fel y dwedir yn Saesneg) ac yn anodd i’w gweld ymysg y goed, neu’r tyfiant, ond
mae cân bob un yn eitha wahanol. Telor y cyrs (reed warbler) ydy un o’r
adar lle mae’r gog yn dodwy ŵy yn ei nyth - a dyna, falle, pam mae’r gog i’w
glywed yma.
Braf ar
ddiwedd y nos cael mynd yn ôl i adeilad y warchodfa lle mae ffenestr mawr yn
edrych dros y wlypdir a gweld dylluan wen yn hedfan yn isel, yn hela. Cyn hynny, roedd cyfle i weld ychydig o nythod y
greÿr las. Braidd rhy bell i gael llun da, ond dyma’r cywion.
Maent
yn nythu’n gynnar, felly erbyn hyn, mae’r cywion wedi tyfu dipyn ac yn fy marn
i, yn edrych fel ’pyncs’!
Wnes i ddim lwyddo i gael lunier o adar eraill, ond dyma rhai luniau no’r warchodfa: bendigedig yn yr haul hwyr.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home