Ailddysgu

Saturday, 2 July 2016

Rhyd y Gro gan Sian Northey



Mi orffenais darllen Rhyd y Gro, wythnos diwethaf.  Dach chi'n gwybod sut mae hi, pan dach chi wir eisio mynd ymlaen i weld beth sy'n digwydd ac eto dim eisio gorffen y llyfr, oherwydd eich bod yn mwnhau gymaint?  Wel profiad fel yna.  Ac eto, yn anodd esbonio beth yn union sydd mor swynol yn y llyfr yma.

Ar y cefn, mae o'n dweud: "Dyma hanes Efa a Steffan, merch a thad - dieithriaid, i bob pwrpas - sy'n dod i adnabod ei gilydd yn ystod cyfnod dwys ym mywydau'r dda."
Mae'r perthynas rhwng Efa a Steffan, sy'n datblygu, yn diddorol ac yn taro deuddeg am wn i.  Anodd dychmygu sut fase rhwyun yn teimlo wrth cyfarfod tad ar ol blynyddoedd.  Ond roeddwn i'n cael fy nhynnu i fewn i'r stori, ac i'r cymeriadau.  Dan ni wedi dewis darllen y nofel hon ar gyfer ein clwb drallen Llundain, ac yn sicr, fe fyddaf isio ail-ddarllen hi cyn y cyfarfod ym mis Medi.

Mi faswn yn meddwl bod llefydd (tai efallai?) yn bwysig i'r awdures, oherwydd  "Yn y ty hwn" ydy enw ei nofel gyntaf.  Mae 'na ychydig o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i'r llyfr yna gael ei gyhoeddi.  Mwynhais hwnnw yn arw hefyd, a dwi'n edrych ymlaen rwan i dynnu'r llyfr o'r silff a'i ailddarllen.  Gobeithio bydd y nofel nesaf ddim yn cymryd cweit mor hir.......

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home