Gyda’r tywydd braf yn parhau, a dim rhy boeth dydd Sul, aethom am dro bach lleol. Mae’r taith bach yma yn mynd trwy’r comin ac i lawr i llyn, wedyn dros caeau ac yn dringo i gyrraedd fferm, cyn troi yn ol i lawr tuag at yr afon eto, ac i bentre Llathbury, hen bentre ryw filltir o’n dre ni. Buom un byw yn Lathbury am ychydig o flynyddoedd.
Dyma’r hen lwybr braf sydd yn mynd o’r comin i lawr i’r llyn [lle eitha da i hel mwyar duon].
Yn ffodus, roedd y gwartheg reit dawel - dwi wastad yn wyliadwrus wrth mynd trwy cae gwartheg gyda ci, yn enwedig os oes lloi bach.
Wedyn cyrraedd y fferm, i’w weld yn fferm mawr ddiwydianol mewn ffordd. Ac yn llawn o wenoliaid a weonoliaid y tŷ. Heb mynd eto, a’r tywydd yn ddelfrydol ar gyfer bwydo cyn hedfan i ffwrdd.
Ar ôl mynd trwy’r fferm, mae’r llwybr yn troi ac yn mynd i lawr yr allt tuag at yr afon, ond annodd gweld dim gyda’r cae enfawr yn llawn o yd, ac yn anelu at bentre bach Lathbury. Hen bentre sydd wedi ei henwi yn y llyfr ’Doomesday’ gyda
hen eglwys yn dyddio yn ôl i’r deuddegfed ganrif.
Mae llwybr trwy’r cae gyferbyn a’r eglwys wedyn yn dilyn yn ôl i Newport Pagnell,
lle dan ni’n byw. Am ychydig o flynyddoedd rŵan mae defaid ’Herdwick’ yn y caeau yma - sydd wastad yn fy atgofio fi o Ardal y Llynnoedd, o ble mae nhw’n dod. Defaid sydd yn gwneud yn dda mewn llefydd mynyddig - a felly mewn ardal fel yma, gyda gwair moethus, yn edrych yn iach iawn.
Am saharan! Braf lawn cerdded yn yr haul - ond rya bedwar a hanner filltir.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home