Ailddysgu

Sunday 2 October 2016

Pethau diweddar


Fel arfer, mae pethau wedi bod yn brysur, a rhysut dwi ddim wedi llwyddo i bostio i’r blog.  Felly be sydd wedi bod yn digwydd?  Penwythnos diwethaf, aethom i arddangosfa a oedd wedi cael ei osod yn yr hen eglwys yn Lathbury - pentref rwy filltir i ffwrdd.  Mae’r hen eglwys yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, a mae lluniau a cherfiadau ar y muriau
.  



Arddangosfa gan ddau artist lleol sydd yn byw yn y dref yn fama: Kate Wyatt - sydd yn peintio bywyd gwyllt lleol , ac yn yn enwedig sgwarnogod, a hefyd rhai o waith Tony Barker, sydd hefyd yn peintio adar a bywyd gwyllt.  Dan ni wedi prynu un o’i phrintiau hi, i fynd ar wal y lloft ffrynt.   Mae’r ddau yn treulio llawer o amser ym mhob tywydd yn fraslunio be maent yn gwylio, a mae o’n syndod gymaint o adar ac anifeiliaid sydd i’w gweld yn yr ardal.

Ddoe, ymweliad i arddangosfa gwbl wahanol. “Records and Rebels 1960- 70- ”  yn yr amgueddfa Victoria & Albert, yn Llundain.  Rhan o ddathlu penbwlydd fy ngŵr a fy ffrind.  Arddangosfa gwych; hel atgofio ond hefyd ' roedd yn ymweliad emosiynol.  Lle aeth yr holl cythro a’r angerdd? Yn ôl yr arddangosfa, ar ddiwedd y pumdegau/dechrau’r chwechdegau - dwi ddim yn cofio yn union, roedd hanner poblogaeth America yn dauddeg bump neu iau!  A dyma ni heddiw, ac efallai bod yr Americanwyr am gael Trump fel llywydd!

Ac yn ôl i iddiwrnod heulog, hyfryd, yn fama, heddiw.  Felly amser i fynd i ddyfrio’r planhigyn yn y tŷ gwydr.  O’r diwedd mae’r pupurau yn dechrau [ond yn dechrau, cofio], aeddfedu.  


Does dim gymaint a hynny, ar ol i’r malwod wleddu ar y blanhigion yn gynharach yn y gwanwyn, ond edrych ymlaen at flasu be sydd ganddo ni, beth bynnag.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home