Ailddysgu

Monday 6 March 2017

Gŵyl Arall

Mae’r Gŵyl Arall yng Nghaernarfon mor bwysig yn fy mywyd Cymraeg a Chymreig.  Cyfle i wneud pethau diddorl a dysgu pethau gwahanol i gyd drwy gyfrol y Gymraeg.  [Peth prin yn fy mywyd yn MK!]

Eleni, roedd gormod yn digwydd i fi eu gofnodi i gyd yma.  Felly, ynglyn a’r post yma, beth bynnag, dwi'n son am daith gerdded hanesyddol gyda Rhys Mwyn, arecheolegydd lleol.  Dwi wedi bod ar sawl daith gyda Rhys, a ddoe cael cipolwg ar archeleg diwydiannol Caernarfon oedd dan sylw.  Felly, be ddysgais?

  1. Bod pobl Caernarfon yn barod i fynd am daith cerdded mewn tywydd eitha gwlyb!
  2. Bod y cei llechi - lle fues i’n chwarae pan yn blentyn - ddim yn bodoli cyn y ddeunawfed ganrif
  3. Bod llawer o’r adeiladau sydd ar hyd y cei wedi cael eu ddefnyddio gan cwmni peirianneg De Winters, a sefydlodd ffowndri yn y lleoliad yn creu beth bynnag oedd angen ar gyfer y ddiwydiant llechi.  [Yn ôl wikipedia, Owen Thomas a oedd wedi adeiladu’r ffowndri].
  4. De Winters oedd yn gyfrifol am adeiladu rheilffordd Nantlle I gario’r llechi mewn wagenni o’r chwareli yn Nyffryn Nantlle I Gaernarfon.  Roedd y wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau.  Agorodd Rheilffordd Nantlle yn 1828.


Heddiw, mae’n bosib o hyd gweld olion y cledrau o’r reilffordd – fel yn y lluniau nesaf.  



[Mae'r ail llun yn dangos lle maent yn gweithio ar yr  'ynys':  llawer o gynlluniau ar gyfer y cei llechi. ].  Ond fel llawer o bethau diddorol, yn aml dan  ni ddim yn sylwi beth sydd o’n gwmpas ni.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home