Dyma ni ar ddechrau fis Mai; amser
hyfryd o’r flwyddyn, yn yr ardd ac allan o gwmpas.  Dwi ddim wedi bod yn
llwyddianus iawn gyda cadw’r blogio ’ma yn mynd - ond ’falle dyma dechrau newydd
arni: cawn gweld.
Yn yr ardd llysiau, dan ni yng
nghanol be mae’r Saeson yn galw yn “hungry gap’, lle mae llysiau llynedd wedi
gorffen, a llysiau eleni dim wedi dechrau.  Felly, dwi newydd casglu’r
spigoglys ola, ond mae’r spigoglys newydd yn fach, fach, fach:
Mae’r shallots yn dod ymlaen
yn dda - er gwaetha’r sychder [mae Ebrill wedi bod yn sych, sych, sych, a dwi
wedi gorfod dyfrio]
a hefyd y ffa llydan.  Bydd y
rhain yn dechrau bod yn barod yn fuan.  Wrth meddwl, dydy o ddim yn wir
bod na ddim byd ar gael; mae’r rhiwbob wedi bod yn dda - ond dim llawer o help
os mai llysiau dwi isio - a mae’r salad yn y tŷ gwydr wedi bod yn eitha da
hefyd.
Mae’r
gŵyl banc yn amser ddelfrydol i ddal i fynny.  Gan bod wythnos diwethaf
mor oer, gyda barrug yn ogystal a gwynt main, creulon, wnes i ddim wasgaru’r courgettes,
neu’r ciwcymber a.y.y.b.  Ond mae ddwy res o foron yn y tŷ
gwydr, a betys, spigoglys a radisys yn yr ardd, a tatws.  Digon i’w wneud,
o hyd.  A yn mae’r ardd flodau yn dod ymlaen hefyd.  Dyma rhai o
luniau.
    
     
    
    
    
    
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home