Yn amlwg dwi ddim wedi llwyddo i gadw i fynny gyda’r blogio. Gyda’r tywyddd bendigedig boeth boeth boeth, dwi wedi bod yn brysur yn cerdded y ci yn gynnar, ac yn dyfrio yn gynnar ac yn hwyr. Serch hynny, mae’r ardd yn sych ofnadwy.
Ond mae bywyd gwyllt yn ffynnu. Dyma lun o fras y cyrs [dyna ydy reed bunting yn ol geiriadur Y Drindod Dewi Sant].
Dwi ar goll, braidd oherwydd dwi ddim yn medru dod o hyd i Lyfr Natur Iolo - a dyna’r beibl i fi ynglyn enwau adar Cymraeg. Hebddo fo, dwi ar goll gyda adar sydd dipyn bach fwy anhyffredin. Dwi’n hoff iawn o’r aderyn yma, ac yn raddol wedi dod i adnabod ei gan.
Aderyn arall a welais yn ddiweddar ydy telor y cyrs - a dyma ei lun.
Ymweliad i’r warchodfa natur gyda fy ffrind a oedd draw o America, a hefyd yn hoff iawn o fywyd gwyllt. Cawsom prynhawn da. ’Roedd y telor yma ty allan i’r cuddfan, ond dim yn hawdd cael ei lun - ond dwi’n meddwl bod y mosgitos allan hefyd. Beth bynnag, roedd rhywbeth wedi fy mrathu ym mhob man, a’r brathiad[au?] wedyn yn chwyddo ac yn cosi fel dwn i’m be.
Yn ôl ar y comin, yr un noson, clywson y gog. ’Falle bod y gwaith ar y comin yn cael effaith: dim chwyn laddwr, dim pori’ a’r gwair yn denu trychfilod. Noson hyfryd, hyfryd, ac wrth gerdded, gwelson y dylluan wen yn hela.
Wnes i ddim llwyddo i gael lun da [eto!] - ond mi fyddaf yn dal ati os gai siawns!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home