Mae’r gwanwyn yn ei anterth rŵan, yn yr ardd. A felly hefyd roedd hi ar y taith cerdded, wythnos diwethaf, gyda ffrindiau, yn cerdded rhan o’r “Shropshire Way”.
Cerdded o Church Stretton yn dechrau dydd Llun a chyraedd Ludlow prynhawn Gwener. Mae'r taith cyfan yn llawer hirach - ond gyda dim ond pum diwrnod a phawb yn ei oedran, roedd hyn yn ddigon i ni.
Dyma taith dan ni’n gwneud bob blwyddyn - dim i’r un lle, ond taith lle dan ni’n cerdded bob dydd, aros mewn gwestŷ dros nos, a mynd ymlaen y dydd ganlynol. Mae'n cyfle i sgwrsio tra bod ni'n cerdded a dros cinio gyda'r nos, i fod allan yn y cefn gwlad, ac ymlacio - ac i gryfhau'r cyhyrau sydd ddim yn gweld bryniau yma yn MK!
’Roedd y tywydd yn garedig; dipyn yn oer a gwyntog ar y bryniau, ond daeth yr haul allan yn aml. A rywsut mae ychydig o dyddiau i ffwrdd o’r byd bob dydd, mewn llefydd yfryd yn bwydo’r enaid.
Dyma ychydig o luniau. Mwy yn rhan 2!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home