Ar Galwad
Cynnar, yn ddiweddar, roedd rhywun [Trevor Dines, efallai?] yn siarad am
ddolydd, ac am wahanol ragleni i ail-sefydlu dolydd traddodiadol. Mae ein
comin ni, ond dipyn dros bum munud i ffwrdd o’r tŷ [ar droed] yn perthyn i’r ParksTrust, sydd yn rheoli’r rhan fwyaf o’r tir ’gwyrdd’ yn Milton Keynes.
Mae nhw wedi penderfynu ail greu dôl traddodiadol mewn cae ar waelod y
comin. Dyma rhan o’r gwaith i ddechrau’r prosect yn ôl yn yr Hydref gyda'r tractor yn gweithio yn y cae:
Roedd
yr arwydd [isod] yn dweud wrthan ni am y prosiect a wedyn gnwaeth y waith ddechrau:
yr un ffordd a soniodd Trevor Dines amdano - torri’r ’gwair’ o ddôl
traddodiadol, yn llawn o’r hadau, a gadael i’r hadau gnweud ei gwaith.
Dan ni felly ond ar y cam gyntaf. Ond mae hyd
yn oed rhoi gorau i ddefnyddio chwyn laddwyr [a peidio’r pori] wedi cael
effaith yn barod. Dan ni’n dechrau gweld blodau yn dod yn ol i’r cae nesa i'r cae yma.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home