Gyda glaw ar y ffordd heddiw - a mi
ddaeth, hefyd - amser i drio gynhaeafu’r tatws. Dwi’m dweud trio oherwydd
bod y coes ddim wedi gwella eto, ond do, mi wnes i lwyddo i wneud chwarter awr
fach o godi tatws. Hwre! A dyma nhw. Tatws "Jersey", ond dim yn datws newydd bellach ond yn datws eitha fawr.
“On a roll” fel fase’r Saeson yn
dweud, mi es ymlaen i godi ychydig o genhinen. Mae rhai wedi dioddef o’r
tywydd sych yn gynharach yn y flwyddyn ond erill yn dda.
Felly
cawl cennin amdani heddiw: “comfort food” - be ydy’r Cymraeg am hyn - ar gyfer
tywydd glawiog diflas. OND, bydd dim rhaid dyfrio’r pwll, gobeithio.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home