Dros y benwythnos r’on yn rhan o grŵp bach yn cerdded llwybr arfordirol Cymru. Dechreuodd fy ffrind Aude, fy nghyfaill, cerdded y llwybr gyda Charles ei ŵr a Matthew, ei brawd yng nghyfraith yn ôl yn 2O12, dwi’n meddwl - yn gwneud darnau back ar y tro. Erbyn haf 2O13 roeddent wedi cyraedd Ynys Môn.
Ambell waith es i ymuno a nhw, a dyma llun o Aude a Charles ar ynys Môn ym mis Awst, 2O13. Dydd ardderchog yn llawn hwyl.
A dyma ni ym Mhen Llŷn ym mis Ionawr 2O14 - ar diwrnod braf, er bod y ddiwrnod wedyn yn ddigon wlyb!
Ym mis Ebrill roeddwn yn cerdded llwybr arfordir Sir Benfro gyda grŵp arall o ffrindiau. Ac yn ôl y flwyddyn canlynol.
Yn anffodus erbyn haf 2O14 roedd cancr Aude wedi dod yn ôl ar ol ryw chwech flwyddyn o fod yn iach. A’r tro yma, roedd hi’n gwybod ei fod hi ddim am wella - roedd y cancr yn ei lladd. Er y salwch roedd hi’n benderfynol o wneud gymaint a phosib, ac yn 2O16 cyrhaeddodd Llangrannog. Ond roedd hi rhy sâl i fyd bellach. A bu farw ym mis Medi 2O16.
Dros y penwythnos daeth teulu Charles ac Aude a ffrindiau Aude at eu gilydd, dwy flynedd ar ôl ei marwolaeth i ddathlu bywyd Aude a chofio Aude ac i orffen y taith arfordirol. Dipyn ar ôl marwolaeth Aude, ail-ddechreuodd Charles a Matthew ar y taith arfordirol ac erbyn mis yma, roeddent wedi cyraedd y rhan olaf.
Mi llwyddais i ymuno a’r taith gyntaf dydd Sadwrn
ond ar ol syrthio a brifo fy nhroed doeddwn i ddim yn medru cerdded dydd Sul. Ond roedd eistedd wrth yr afon yng Nghas Gwent yn braf ac yn gyfle i weld ddau hebog tramor ar y creigiau wrth ben yr afon. A wedyn cinio. Amser emosiynol dydd Sul, ond penwythnos ardderchog.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home