Y comin
Bron bob dydd dwi'n cerdded am awr ar y comin yn y bore a weithiau awr yn y prynhawn ond ar y funud mae o'n boeth yn y prynhawn fel arfer a felly hanner awr dan ni'n gnweud ar ol saith o'r gloch.
Ond yn ddiweddar dwi wedi bod yn cerdded ar comin yn y Goedwig Newydd [?? New Forest] tra roedden yn aros gyda fy mrawd a'n chwaer yng nghyfraith, a cyn hynny yn cerdded ar comin Wareham yn Dorset. Mae nhw i gyd mor wahanol ac eto yn rhoi gofod i ni werthfawrogi. Mae comin Wareham yn SSSI
Welis i ddim weision y neidr ond mi roedd hi braidd yn sych, ond welais y llyffant du yma. Dwi bron byth yn gweld y rhain yn ein hardal ni.
A mae pethau yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Dyma aderyn sydd wedi bod yn byw are ein comin ni am flynyddoedd: bras y cyrs.
Mae'r llinos yma hefyd - er ie fod ddim mor gyffredin yn ein hardal ni a hefyd eleni dwi wedi gweld y weirloyn cleisiog [esgusodwch diffyg acenion!]
dyma iar fach yr ha ddel!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home