Ailddysgu

Sunday 27 May 2018

Mis Mai Hyfryd

Mae mis Mai wedi bod yn hyfryd - er ei fod braidd  yn stormydd ar y funud.  A mae o wedi bod yn fis brysur, hefyd.  Mae'r penglin wedi gwella gymaint, a dwi'n ol yn beicio i'r gwaith ar hyd lonydd a llwybrau distaw, gwyrdd:


Wrth gerdded gyda fy ffrind [y ci] ar y comin, dwi weid gweld telor yr hesg am y fro gyntaf. Mae ganddi gan sydd dipyn bach fel can y ddriw - yn dwrdio; ond mae hi wedi bod yn anodd cael llun da.  


Mi fyddaf yn parhau gyda'r ymdrech!



Gyda'r tywydd braf ac isio bod allan ymysg byd natur, dwi ddim wedi gwneud gymain o arddio a ddylwn ni, ond r'oedd y wyrion yn hapus i helpu yn yr ardd ffrynt: yn hel clochau'r gog a ballu.  Yn anffodus, clochau'r gog Spaeneg sydd yn yr ardd a felly dwi'n hapus iawn i'r plant cael nhw - dwi isio cael gwared ohonynt!  Cefais llyn o'r cudyll coch un bore - y ceiliog, sydd yn hela ar y comin:


Yng nghanol y mis aethom i hen goedwig wrthlaw i weld clychau'r gog, fel dan ni'n gwneud bron bob blwyddyn gyda'r teulu.


Cyfle i gael rasus a chwarae o gwmpas os ydych yn fach:

R'on yn falch o weld y tylluan fach ar y comin eto, hefyd.  Siwr ei fod o neu hi wedi bod yna trwy'r amser, ond doeddwn ni ddim wedi ei gweld hi.  Llun wedi ei gymryd yn erbyn yr haul ydy hon, felly dydy'r aderyn ddim yn glir iawn.


Ond efallai yr aderyn fwyaf gyffrous ar y comin ar y funud ydy'r gog.  Mae 'na gog wedi bod yn canu ar y comin am dipyn - dwi'n ei glywed o bron bob dydd - a ddoe 'roedd ddau aderyn yn canu.  Dwi wedi trio cael llun, ond hyd ar hyn, ond llyn gwael o'r gog yn diflannu dwi wedi llwyddo i gael.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home