Ailddysgu

Monday 2 April 2018

Taith cerdded yn Shropshire

Dydd Sul diwethaf oedd diwrnod cyntaf y taith cerdded eleni – dyma taith mae grŵp ohonon ni yn gwneud bob blwyddyn.  Cerdded llwybrau fel y llwybr arfordir Cymru ac yn aros mewn lle gwahanol bob nos. Dwi’n meddwl, erbyn hyn ein bod wedi gwneud ryw ddeuddeg daith fel hyn, er bod y grŵp wedi gwneud rhai cyn i fi ymuno.  Y daith gyntaf un i fi ymuno ynddo r’oedd y Shropshire Way, a dyna beth roedden yn cerdded eleni hefyd.  Wedi gwneud rhan un llynedd a tro yma yn decharu yn Ludlow [oes mae ‘na enw Cymraeg i Ludlow ond dwi ddim yn cofio fo].

Cawsom amser hyfryd.  Dechrau gyda cinio ar ol cyrraedd Ludlow, a wedyn taith cerdded bach hyd at ’AngelBank, dim nepell allan o Ludlow, a cherdded i fynny i’r tafarn ’Golden Cross’ am frechdan gyda’r nos.  Siawns i ddeffro’r cyhyrau! Gwelson ddwy ’sgwarnog a digon o fwncathod, cyn ddrigo ’Clee Hill’ y ddiwrnod wedyn. Digon o ddiddordeb yn fama hefyd: yr haul yn gwenu, a golygfeydd hyfryd yn ogystal a hanes diwydianol. Mwy o fwncathod, cudydd coch a hebog tramor.  Digon o hen chwareli iddyn nhw nythu ynddynt, dwi'n meddwl.



Ar ol glawio yn ystod y nos, ’roedd hi’n bwrw yn ysgafn pan roedden ni’n dechrau cerdded bore Mawrth, ond yn fuan, wneth y law peidio.  Ond dwi bron erioed wedi gweld llwybrau mor wlyb a gyda gymaint o fwd a baw gwartheg arnynt.  Cerdded i Much Wenlock i aros mewn hen dafarn, Y Fox.  Cerdded ar hyd 'Wenlock Edge' a heibio hen blasdy; Wilderhope Manor, lle arhoson y tro diwethaf gwnaethon y taith yma.


Hen dafarn hyfryd yw'r Fox - a bwyd hyfryd hefyd.   Ar ddydd Mercher cerddodd rhan fwyaf o’rgrŵp i Little Wenlock - a chael cinio yn Ironbridge. 
Tref gyda gymaint o hanes ddiwydianol - ond dim digon o amser i aros ac i edrych o gwmpas  dydd Mercher. Gorffenais y taith yna am y ddiwrnod - doeddwn i ddim isio or-ddefnyddio fy mhenglin.

Nos yn Little Wenlock a wedyn cerdded i Wellington: cael cinio cyn dal y tren yn ol i MK.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home