Rywsut
dwi ddim wedi postio i’r blog am oes. Gyda’r tywydd sych [dim glaw ers
dechrau’r mis], mae garddio a dyfrio wedi cymryd gymaint o amser. Ond
rŵan dan ni ar ein gwyliau a gyda’r tywydd mor boeth a wedi penderfynnu aros o
gwmpas y tŷ a’r dref heddiw, does dim esgus.
Blynyddoedd
yn ol, pan roeddwn yn byw yng Nghaernarfon, roedd stryd o’r enw Henwalia dim yn
bell o’n tŷ ni. Ond rywsut, nes i erioed
meddwl am ystyr yr enw. Ond pan es am
dro gyda Rhys Mwyn (rhan o Gwyl Arall ychydig o flynyddoedd yn ol], a clywed hanes Rufeinig y dre, ‘roedd yn
amlwg. Mae stryd Henwalia jyst i lawr y
lon o’r hen Gaer Rufeinig. A dwi
wedi cerdded rhan o hen waliau Caernarfon, a Conwy a.y.y.b – a waliau wedi adeiladu
o cerrig ydynt i gyd.
Dros y
dyddiau diwethaf, dwi wedi bod yn cerdded ar hyd hen waliau gwahanol iawn. Hen waliau ‘Wareham’ lle dan ni’n aros ar y funud.
Hen waliau tra gwahannol – waliau Sacsonaidd.
Does dim cerrig ar y waliau [ond mae’n debyg
bod cerrig wedi bod ar ben y waliau unwaith].
Waliau pridd, ond eitha mawr.
Mae’r waliau wedi sefyll am dros fil o flynyddoedd. Ond doeddent ddim digon i wrthsefyll y LLychlynwyr.
Heddiw mae o’n bosib cerdded ar hyd y waliau yn
y ran fwyaf o’r dref, a cael golygfeydd trawiadol o'r dre a'r cefn gwlad hyfryd o gwmpas.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home