Ailddysgu

Friday 13 April 2018

Tynnu lluniau


Dwi’n perthen i grŵp bach o ferched sydd yn cyfarfod i drafod a gwella ein ffotograffau.  Rhanu a trafod ein lluniau, a trio dysgu gwella.  Y mis yma dan ni wedi bod yn canolbwyntio ar lluniau bywyd gwyllt.  Felly dyma rhai o’r lluniau rhannais gyda'r grŵp:


Dwi wastad yn trio cael llun gwell o'r cudyll coch - ond dim wedi llwyddo eto.


A dyma gwyach gawr gopog a tynnais yn y warchodfa dydd Sadwrn.  Diwrnod sych am unwaith.


Dwi'n hoffi hon am ei fod yn edrych at y camera.



Dwi mor hoff o jac-y-dos - a'r holl teulu brain.  Mae nhw mor glyfar.  Roedd y rhain yn nythu ym Mhalas Esgob Tyddewi, a falle dyna pam roedden nhw'n iawn gyda fi yn mynd yn eitha agos atyn nhw - wedi arfer gyda pobl.

A dyma hwyaden ddanheddog.  Mae'r rhain i'w gweld ar ein afon ond mae yn anodd i dynnu lluniau da - maent yn hedfan i ffwrdd y funund dach chi'n agosau.  'Roedd hon, yn Besancon yn Ffrainc, dwy neu dair flynedd yn ol, dipyn mwy fodlon!



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home