Llandeilo 3-7 Medi 2023
Hwyr yn cyfranu i’r blog - ond dyma be o’n am sgwennu nos Iau:
Newydd dod yn ol o Landeilo - tri diwrnod hyfryd gyda’r haul yn gwenu - ac yn aros gyda fy ffrind Jan. Mor lwcus gyda’r tywydd; peth annarferol gorfod cilio o’r haul poeth. Ces cyfle I fynd i gael cinio yn fama yn yr haul
https://en.wikipedia.org/wiki/Insole_Court
a ffeindio ddau lyfr Gymraeg i ddarllen: Rhannu’r Tŷ gan Eigra Lewis Roberts - argymhelliad gan ffrind ryw ddwy flynnedd yn ôl, a hefyd, “Marwydos” detholiad o storîau Islwyn Ffowc Elis. Da, te?
Aethon i erddi Aberglasni y ddiwrnod ganlynnol - dim gadael rhy gynnar, a cael picnic yn y gerddi a oedd yn boeth, boeth boeth, a wedyn mynd allan am fwyd i dafarn lleol
.
Ond efallai’r uchafbwynt oedd mynd i arfordir Sir Benfro a cael nofio nid rhy bell o Saundersfoot. Dydd poeth a’r t ro gyntaf i fi nofio yn y môr ers dwn i ddim pryd. Roedd fel bod yn blentyn eto a doedd y môr ddim rhy oer chwaith. Dim lluniau ar gael o'r ddigwyddiad yma!
A fel popeth da, roedd yr amser yn hedfan ac ynn amser gadael dydd Iau, ar ol cinio, a chefais tren o Abertawe - ond cyn hynny aethom am dro i Ddinefwr - sydd digon agos i dŷ Jan fel dach chi’n medru cerdded yno.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home