Ailddysgu

Sunday 21 May 2023

Y fursen fawr goch

Dyma’r fursen fawr goch.   



Mae’r ddau yma yn cyplysu a wedyn (fel yn yr ail lun. ond sori dydy o ddim yn hawdd i'w weld) bydd y fenyw yn gosod ei hwyau ar blanhigyn addas sydd yn tyfu yn y pwll sydd wedi bod yn yr ardd ers rhai blynyddoedd bellach. 

 


Y cyngor gyda phyllau ydy adeiladu pwll mor fawr ag y gallwch.  Ar y pryd, meddyliais bod y pwll yn ddigon mawr, ond mi fase wedi bod yn well tase hi dipyn fwy.  Beth bynnag, mae’r pwll wedi dod a digon o fywyd gwyllt gyda fo.  Mae’r tymor yn dechrau gyda’r llyffantod sydd yn dod i ddodwy grifft ym mis Mawrth a pryd hynny bydd y pwll yn llawn o lyffantod, a dan ni’n gobeithio fydd na ddim tywydd garw i ladd y penbyliad bach bach.

 

Hefyd, mae’r pwll yn lle i adar yfed.  Yn anffodus, os dach chi’n sguthan, mae rhaid bod yn wyliadwrus iawn oherwydd dyma gyfle i walch glas gael pryd o fwyd. (Dyma llun o un yn yr ardd yn 2021)




Mae’r rhain yn adar trawiadol gyda llygaid melyn treiddiol.  Mae nhw’n ddigon cyffredin o hyd ond dan ni ddim yn eu gweld yn yr ardd yn aml.  A wedyn gyda’r tymherau yn codi yn y Gwanwyn a’r haf, daw’r mursennod a weithiau gweision y neidr.  

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home