Gŵyl Arall 2023
Dwn i'm faint o’r rhain (Gŵyliau Arall) dwi wedi mynychu dros y flynyddoedd. Mae nhw wastad wedi bod yn hwyl a bob un yn wahannol. Ond dau ddiwrnod i fi eleni. Cyrraedd nos Wener a gadael prynhawn Sul. Ar ol noson heulog poeth ar gyfer y Pyb Crôl Llenyddol, nos Wener (dechreuad gwych fel arfer) roedd y tywydd mwy gymysg dydd Sadwrn a roeddwn inna’n flinedig.
Ond, serch hynny, cefais modd i fyw wrth glywed Jon Gower yn siarad a Julie Brominicks am ei llyfr: The Edge of Cymru, am gerdded o gwmpas Cymru: wel, mwy na hynny, oherwydd mae hi’n rhoi y daith mewn ei gyd-destyn - gyda hanes Cymru, a’r effaith cafodd y daith arni hi, a’i hunaniaeth a.y.y.b. Beth bynnag, annwyl ddarllenwyr, prynais y llyfr ac edrychaf ymlaen at ei ddarllen.
Wedyn cawsom glywed gan Sian Llewlelyn a Peredur Glyn am ei lyfrau nhw: Darogan a Pumed Gainc y Mabinogi. Nofel a chasgliad o storiau byrion. A rhwng cerdded o gwmpas Doc Fictoria, ar yr arfordir a digwyddiadau dydd Sul, darllenais Darogan a gorffenais y llyfr ar y tren. Fel mae Geraint Lovegreen yn dweud a y clawr ro’n i’n cael trafferth i roi’r llyfr i lawr hefyd! A mae Llyfr Peredur Glyn ar fy rhestr pwnblwydd (penwythnos nesa!). I fi mae Gŵyl Arall yn gyfuniad o gael crwydro’r dref a’r ardal; cerdded dipyn ar yr arfordir; cael sgyrsiau difyr gyda phobl dwi’n nabod a weithiau (fel y tro yma gyda pobl dwi newydd cyfarfod fel y merched o Sir Gaerfyrddin); darganfod a phrynu llyfrau newydd diddorol a chael siawns i glywed yr awduron yn siarad amdanynt. Yn aml mae cerddoriaeth yma hefyd. Y tro yma, y cor “Kana”: gwych !
Ac i rywun sy’n byw yn Lloegr cael cyfle i wneud popeth yn Gymraeg! Ond cyn gorffen, rhaid dweud bod taith Rhys Mwyn yn bendigedig fel arfer. A’r tro yma, dim glaw!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home