Dau aderyn y comin lleol
Dau aderyn dynodd fy sylw ar y comin yn ddiweddar. Y cyntaf oedd y cudyll coch, yn ei nyth: mae’r cudyll coch yn nythu mewn twll, neu mae hi yn defnyddio blychau weithiau (https://www.rspb.org.uk/birds-and-wildlife/wildlife-guides/bird-a-z/kestrel/breeding-and-nesting-habits/) ac yn aml mae nhw’n defnyddio’r un nyth flwyddyn ar ol flwyddyn.
Mewn twll mewn coeden onnen mae’r nyth yma, yr un lle a llynedd. Cyn nythu, mae’r adar yn cryfhau’r cwlwm rhyngthyn nhw – a falle dyma pam mae’r ddau mor agos at ei gilydd yn fama, yn ol ym mis Chwefror. Mae’r ceiliog ar y chwith ac yn edrych braidd yn flin: newydd ddeffro mae o!.
Yr ail aderyn ydy pibydd y waun (meadow pipit).
Am flynyddoedd, hoffwn weld yr aderyn hwn pan roeddwn ar wyliau cerdded – ac yn cerdded ar rostir, neu yn yr uwchdiroedd. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn byw yn yr iseldiroedd a dim wedi sylwi ei fod yn byw yn lleol yn y gaeaf, oherwydd mae o’n dod i lawr i’r iseldiroedd yn y gaeaf, a weithiau, dwi’n meddwl, yn aros yma hefyd. Bydd rhaid i fi wylio’n ofalus yr haf yma. Dydy o ddim yn aderyn lliwgar, ond dwi’n meddwl bod rhywbeth hoffus iawn amdano a mae o’n fy atgoffa o uwchdiroedd Cymru. Fel llawer o adar, mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers y saithdegau.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home