Yn rhad ac am ddim - a phytiau eraill
Wel, mae’r tywydd yn parhau yn sych, ar y cyfan. Digon o haul a gwres, ond dim rhy boeth, diolch byth. Felly dwi wedi bod yn parhau i weithio yn yr ardd, yn trio cael dipyn o drefn. Hyd on oed rŵan, mae ’na fylchau lle roedd blanhigion llynedd, cyn i’r gaeaf caled cael gafael ar rhai o’r planhigion. Fel soniais yn y post diwethaf, roedd gen i salfias gwych, hydref diwethaf, ond, wnes i ddim lwyddo i gadw nhw’n fyw. Felly, un cynllyn o hyn ymlaen ydy cymryd mwy o dorriadau, a cadw at blanhigion sydd yn medru ymdopi a’r tywydd sych.
Braf clywed rhaglen ar “gardeners’ question time” ar y radio (4) felly a oedd yn son am y fath yma o blanhigion, a dwi wedi dechrau gwneud rhestr. Ond be a wnelir hyn i gyd a bod yn rhad ac am ddim? Wel, un ffordd o drio oroesi tywydd mor sych yn yr ardd ydy creu pridd sydd yn medru dal dŵr, i raddau beth bynnag, trwy ychwanegu digon o gompost a chreu haen sydd yn cadw’r lleithder i fewn. Mae compost yn bwysig iawn mewn gardd, a dan ni’n ffodus yn fama, bod ’na ddigon o geffylau o gwmpas. Felly pan dwi’n cerdded gyda’r ci, dwi’n casglu tail ceffyl os dwi’n gweld o ar y comin, mewn bag plastig sydd wedyn yn mynd i’r compost, gyda chardbord a papur newydd yn ogystal a chwyn a.y.y.b.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home