Gwiwerod
Gan fy mod yn byw yn Ne-Ddwyrain Lloegr, ond wiwerod llwyd sydd o’n gwmpas. Ar wahan i’r Gogledd lle mae rhai wiwerod coch wedi goroesi, yr unig llefydd yn Lloegr ydy’r ynysoedd yn y De: Ynys Wyth a Ynys Brownsea. https://www.dorsetwildlifetrust.org.uk/brownsea-island. (A mae’r wefan yma yn dda ac yn dangos lle mae’r wiwerod yn yr Alban: https://scottishsquirrels.org.uk/squirrel-sightings/) Wythnos diwethaf treuliais dipyn o amser yn Dorset gyda ffrind o Ganada. Arhoson yn Wareham, hen dref fach ddymunol iawn, lle mae’n bosib cael bws neu tren i Poole, a wedyn dal cŵch i’r ynys.
Y tro diwethaf es i Brownsea ’roedd o’n ddydd boeth yn yr haf - ym mis Mehefin, ychydig o flynyddoedd yn ol. Roedd môr wenoliaid i’w gweld, wedi nythu, gyda cywion bach a ceirw a gweision y neidr, ond doedd dim wiwer i’w gweld. Tywydd boeth yn eu cadw yn y coed, allan o’r haul. Ond wythnos diwethaf, roedd 6 neu 7 wiwer o gwmpas y coed wrth ymyl yr eglwys yn y coed a ro’n wrth fy modd yn trio cael lluniau.
Dyma un dwi’n hoffi
A dwi’n meddwl efallai ei fod yn amser paru. Beth bynnag roeddent yn rhedeg ar ol ei gilydd ac yn dringoor coed i fyny ac i lawr. Annifeiliaid mor hoffus, a gobeithiaf na fydd yn gyfnod mor hir tan i fi ei weld nhw eto.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home