Darllen
Ar ol amser hir dwi wedi ailgydio yn y blog. Mae diwrnod diflas gwlyb yn amser dda i wneud hyn. Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn darllen cryn dipyn, yn Gymraeg a Saesneg. Yn Saesneg i ddechrau - dwi newydd orffen Demon Copperfield, llyfr ddiweddara Barbara Kingsolver.Dipyn o Farathon gyda 546 dudalen. Mwynheais lawer ohono fo, ond mae o yn hir, hir, hir, a mae’r stori yn druenus ar y cyfan: stori am blentyn a wedyn dyn ifanc sydd yn amddifad, ac yn dioddef o rieni maeth lle does na ddim llawer o gariad, a weithiau dim llawer o fwyd neu gysur cheaith. A wedyn, ar ol cael cartref gwell lle mae o’n chwarae peldroed ac yn dod i fod yn seren...mae o’n niweidio ei benglin ac yn dod yn gaeth i gyffurau prescripsiwn -ac ymlaen o hynny. Mae’r nofel hon wedi ennill o leia ddwy wobr. Er hynny, i fi roedd yn brofiad cymysg. Roedd y diwylliant Americanaidd yn rwystr mewn llefydd, e.e. “Holly Roller brood’; ”“Vicodin“; ”holler“ a.y.y.b. Mae’r eitha bosib gweithio allan ystyr llawer o’r geiriau - ond mae’n rwystredig. A mae’r llyfr mor hir, ac yn y canol, yn enwedig, dydy’r stori ddim yn symyd ymlaen llawer o gwbl: yr un cymeriadau yn gwneud pethau tebyg dydd ar ol dydd. Mae’r llyfr wedi ei seilio ar David Copperfield: fesiwn cyfoes ac Americanaidd, os ydy hynny’n bosib - a mae’r un cymeriadau yna - gyda enwau gwahanol (ond weithiau dim yn wahanol iawn) ac mewn lle ac amser gwahanol. Ac un eironi ydy er bod o leiau un o’r cymeriadau yn cwno am yr ystrydebau o’r lleoliad - pobl yn son am ”hillbillies“ ac yn y blaen, mae’r ystrydebau yn fyw yn y llyfr. Dwi wedi darllen Demon Copperfield fel llyfr clwb llyfrau, sydd yn cyfarfod heno - felly bydd yn dda gweld be mae pawb eraill yn meddwl!
Mae’r llyfr yma yn hyfryd; yn afaelgar, gyda cymeriadau credadwy sydd yn hwyl – ond mae pethau difrifol a thrist yn digwydd yn fama hefyd. Colled, cyffuriau, a chariad a chyfeillgarwch. Dyma rhan o be sydd gan Mared Llewelyn I’w ddweud yn ei hadolygiad hi. "
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home