Edrych yn ol a mwydro am farcutiaid
Rhywbeth rhyfedd wedi digwydd yn fama a mae'r dyddiad ar y post yn dweud 20 Rhagfyr ond y 21 oedd hi! Beth bynnag, o’r diwedd dwi wedi dod yn ol at y “Blog”. Bore y diwrnod byrra’, sef yr 21fed o Ragfyr. a dan ni’n nesau at Nadolig yn gyflym, a hefyd o hyn ymlaen bydd y dydd (neu’r golau) yn ymestyn dipyn. Ar ol methu mynd yn ol i gysgu bore ma dwi wedi dechrau sortio allan fy lluniau o’r flwyddyn, ac edrych yn ol ar y flwyddyn a fu.
O be welaf yn y lluniau, digon mwyn oedd dechrau’r flwyddyn. Ac ar y gyntaf o’r fis, gwelais un o’n barcutiaid. Adar digon cyffredin erbyn heddiw, a mae o’n anhygoel meddwl sut roedden nhw pan oeddwn i’n blentyn. Yn fy arddegau hwyr, ro’n yn dwli ar llyfr adar gan Reader’s Digest a’r AA. Yn y tudalen sydd yn disgrifio’r aderyn, mae o’n dweud bod o gwmpas 20 par yn nythu yng Nghymru. Erbyn heddiw mae na fwy na 10,000 par ym Mhrydain. Mae’r peth yn anhygoel.
Ac yn gynharach yn y flwyddyn, cefais y fraint o wylio nyth un par a oedd yn nythu yn eitha agos, ar y comin. Taith ryw 30 munud ar droed. Doedd o ddim yn hawdd cael lluniau o’r nyth - braidd yn bell o lle roeddech yn medru sefyll, ac wrth gwrs, unwaith mae’r dail yn dod, mae’n anodd iawn, ond dyma’r nyth.
A dyma barcud - yn hwyrach yn y flwyddyn, ym mis Gorffenaf. Mae nhw yn defynddio’r un nyth, flwyddyn ar ol flwyddyn, felly bydd siawns eiu gwylio eleni hefyd.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home