O’r diwedd mae’r glaw wedi mynd a mae’r tir yn dechrau sychu, Dan ni’n ffodus yn fama; does na ddim llifogydd wedi cyrraedd y tai dwi ddim yn meddwl. Ond mae ambell i lôn wedi bod dan dŵr, a does dim bosibilrwydd cyrraedd y llwybr wrth yr afon.
Bore Sadwrn, es i gyfarfod a’r tîm lleol sy’n modrywo adar. Mae hyn yn gyfle i weld pa fath o adar sydd o gwmpas, ac i’w gweld nhw yn agos hefyd, yn y llaw. Y tro yma roedden ni mewn perllan cymunedol. Yr adar dan ni’n gweld yr amser yma o’r flwyddyn ydy’r fronfreithod sy’n dod o Scandinafia - fel y socen eira, a’r coch dan aden. Doedd na ddim socen eira i’w gweld ond gwelson ni ychydig o’r coch dan aden. Digon o'r titw tomos las, a dyma llun o llynedd o goch y berllan. Am aderyn drawiadol!
1 Comments:
Gwych!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home