Gwylio Adar yn yr Ardd
Dydy’r teitl yma ddim cweit mor dda a Big Garden Birdwatch, nac ydy? Ond dwi am gymryd ran heddiw, fel dwi’n trio gwneud bob blwyddyn. Gyda’r tywydd gwlyb cawson ni yn gynharach yn y flwyddyn, roedd rhai o’r bwydwyr wedi datblygu llwydni a’r hadau a oedd ynddynt wedi dechrau egino. Doedd dim modd eu golchi yn lan. Felly er fy mod i’n casau gwastraff, roedd rhaid cael gwared ohonyn nhw a prynu bwydwyr newydd. Hefyd, mae digon o fwyd wedi cael ei brynu. Ac eleni dwi’n gobeithio gweld dipyn mwy o adar na sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Dyma’r adar sydd yn dod i’r ardd fel arfer:
Y fwyalchen (sydd yn dod yn eitha agos at y drws gefn)
Y robin goch
Y ddrudwy
Y sguthen
Y ddruw
Titw tomos las
Titw Mawr
Titw cynffon hir
Piod
Colomen goler?
Jac y do
llwyd y gwrych
Felly does dim byd cyffrous yn fama, yn anffodus. Ond gawn weld. A byddaf falle yn ychwanegu lluniau hwyrach ymlaen.
A dyma be ddigwyddodd. Gwelais dau fwyalchen (ceiliog a iar); dau robin goch, 1 titw tomos las, pioden, jac-y-do a llwyd y gwrych. Tynnais lluniau trwy'r ffenestr oherwydd roedd yr adar yn eitha ofnus, felly dydy'r lluniau ddim yn dda iawn.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home