Dechrau’r tymor Nadolig?
Sgwennais hwn ar y 30ain o Dachwedd. Dwi ddim yn un am ddechrau Dolig yn gynnar iawn, rhaid dweud. Dwi ddim isio gorfod meddwl am beth i fwyta, pa bresanta i brynu a.y.y.b: rhy gynnar. Ond roedd y goleuadau'n cael eu troi ymlaen yn y dref, ac fel arfer, es i yna gyda fy ngŵr a’r ci. Dydy’r dref ddim yn fawr, ond mae ’na awyrgylch bositif a chyfeillgar. Wnaethon ni geisio mynd i’r tafarn gyda’n mab a’i deulu - ond sefyll oedd rhaid gyda’r tafarnau mor brysur â llawn.
Bore ddoe roedd cyfarfod y Gymdeithas Gymraeg MK yn “The Swan” a llwyddais i ymuno - er bod y daith fer i fynd yno yn wlyb ofnadwy. Mae’r grŵp eithaf newydd yma yn cyfarfod bob mis, jyst i gael sgwrs yn y Gymraeg. Ond criw bach roedden ni ddoe: digwyddiadau eraill yn galw, a’r glaw yn broblem i’r rhai oedd am feicio o bell. Dan ni am gyfarfod unwaith eto cyn Nadolig. Braf iawn cael cyfle i siarad Cymraeg yn y dref lle dwi’n byw!
Ac mae’r cwrs cynganeddu yn dod i ben. Profiad cymysg. Yn sicr, dwi wedi dysgu pethau ac yn gwerthfawrogi’r rhai sydd yn medru creu cerddi caeth. Ond dros y bythefnos ddiwethaf, mae trio sgwennu englyn sydd yn gweithio yn dechnegol (wnawn i ddim sôn am yr ystyr, eto) wedi bod yn fwy rhwystredig na phleserus - er i fi gael adborth da gan y tiwtor, mwy nag un amser. Dwi’n trwsio un peth - i gywiro'r gynghanedd - ac mae rhywbeth arall yn gwaethygu! Profiad felly. Efallai beth fydd yn aros ydy medru clywed a (weithiau) dadansoddi cynghanedd mewn cerdd. Dwi wedi dechrau gwylio’r ffilm o’r awdl gan Tudur Hallam a enillodd yn yr Eisteddfod eleni. Am gamp.

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home