Ailddysgu

Tuesday 29 August 2023

Be dwi’n darllen ar y funud


Dwi bron wedi gorffen llyfr Angharad Tomos, Arlwy’r Sêr.  Wyddwn i ddim am y gymeriadau yn y nofel hon cyn ei darllen.  Stori ydy am “bardd, athro a Sosialydd o Ddyffryn Nantlle, Silyn” a dynes o Lundain - un o Gymry Llundain - Mary.  Fel mae hi’n dweud ar y clawr, “cydweithiodd y ddau i ymgyrchu dros addysg i bobl gyffredin.”  Treuliais i fy holl yrfa yn gweithio yn y Brifysgol Agored, “darparwr astudiaeth brifysgol israddedig rhan-amser mwyaf Cymru”, er nad oeddwn i yn gweithio yng Nghymru.  Pan ddechreuais i weithio i’r Brifysgol, un slogan oedd “The university of the second chance” - neu rywbeth debyg.    Felly mae addysg “i bobl gyffredin’ yn agos i fy nghalon.  A mae darllen am fywydau a gwaith y ddau yma wedi bod yn hynod o ddiddorol, ac anarferol.  Bron bu y dau yn byw gyda’u gilydd am eu bod yn canolbwytio ar gwaith.

 

Dwi am droi i’r Saesneg ar ol gorffen hon.  Dwi wedi archebu ”Demon Copperhead“ gan Barbara Kingsolver, sydd wedi cael gymaint o glod.  A phendefynais, os rwyf am ddarllen y nofel honno, well darllen  David Copperfield hefyd.  Mae gen i gwilydd i ddweud dwi erioed wedi llwyddo i ddarllen unryw nofel gan Dickens, a wedi cael cyngor am ba lyfr i drio gyntaf.  Ond dwi newydd ddarganfod David Copperfield ar y silff a wedi dechrau ar y tudalenau gyntaf, felly cawn gweld! 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home