Y llyffantod yn ol
Dechreuodd y Gwanwyn yn swyddogol dechrau wythnos diwethaf:union wythnosyn ol. Ond eleni doedd y tywydd ddim yn cyd-fynd gyda’r tymor. Bob blwyddyn dwi’n sylwi pryd mae’r llyffantod yn dychwelyd i’r pwll bach yn yr ardd: pwll ar gyfer bywyd gwyllt, a fel arfer maent yn dychwelyd ryw wythnos wedi dydd Dewi Sant.
Dwi newydd edrych yn ol ar blogiau mis Mawrth, a gwelaf bod y llyffantod yn ol erbyn y 10fed o Fawrth yn 2020. Ond eleni, roedd o’n hwyrach: Mawrth 16, a gadael dipyn bach o grifft, a wedyn daeth haid o lyffantod, ac erbyn 21 Mawrth roedd tua 22 llyffant yn y pwll!
Dyma dau ohonyn nhw ac erbyn diwedd y dydd nesa roedd llawer o ddarnau sylweddol o rifft, hefyd.
Cefais llun arall o’r dylluan wen yn ol ym mis Chwefror, cyn mynd i’r Gŵyl Arall yng Nghaernarfon am yn tro gyntaf ers ycyfnod clo. Dyma’r llun gorau hyd at hyn.
Anodd cael mynd digon agos. Ar y funud,o ran bywyd gwyllt, dwi’n canolbwyntio ar trio caellluniau o sgwarnogod. Ond mae hwnnw’n her fawr!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home