Dyma ni ym mis Tachwedd unwaith eto. Mae’r ci druan yn gwrthod mynd allan unwaith mae hi wedi nosi, oherwydd y tân gwyllt, a hyd yn oed yn y tŷ mae ambell noson, fel nos tân gwyllt ei hun, yn achosi llawer o ofn. Felly’r drefn ydy cerdded cyn gymaint ag y gallwn i, o fewn rheswm). yn ystod y dydd.
Yn bendant dwi wedi sôn am y goeden geirios sydd yn yr ardd ffrynt, ac i’w gweld yn glir trwy’r ffenestr. Mae hi’n blodeuo yn yr hydref a’r gaeaf a weithiau drwy gydol y gaeaf.
Yn yr hydref mae’r dail yn lliw gwych, ond erbyn hyn maen nhw i gyd wedi disgyn (a’r lliw yn wych ar y ddaear). Ond beth sydd yn wyrthiol ydy bod y blodau yn dod allan y munud mae’r dail wedi disgyn. Ond un neu ddau flodyn sydd arni hi rŵan ond cyn bo hir bydd wedi’i gorchuddio.
A wedyn bydd yr adar bach yn dod ac yn bwyta’r blodau! Ond dim y blodau i gyd, diolch byth. Dyma lun o ditw cynffon hir yn y goeden y llynedd.
Weithiau ar raglenni garddio, mae rhywun yn gofyn: pe tasech chi ond yn cael un goeden yn unig yn eich gardd, pa un fasech chi’n ei dewis? Hon, heb os ac oni bai. Prunus subhirtella Autumnalis ydy'r enw, swyddogol, Lladin.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home