Sir Benfro
Gan fod rhaid i mi orffwys fy nhroed, dwi'n gwylio mwy o raglenni ar iplayer y BBC nag arfer. Dwi wedi mwynhau rhai o benodau Inside Britain's National Parks, gan gynnwys yr un ar Sir Benfro. Er nad wyf wedi bod ers rhai blynyddoedd, ac mae'n bellter mawr o le rwy'n byw, dwi wedi bod yn
ddigon ffodus i fod ar sawl ŵyl cerdded ar arfordir Sir Benfro. Dyma lun o’r capel sydd yn y creigiau – o daith cerdded 13 mlynedd yn ôl gyda grŵp o ffrindiau. Gwyliau lle roedden ni’n cerdded ar hyd yr arfordir, dydd ar ôl dydd – a rhywsut, roedden ni’n ffodus iawn gyda’r tywydd. Cerddon ni’r llwybr dros dair blynedd (wel, rhan o’r llwybr) a ‘r oedd yr haul allan dydd ar ôl dydd. Doedd hynny ddim yn wir y tro gyntaf cerddais ar arfordir Sir Benfro yn ôl yn y 70au – roedd yn ddydd mor wlyb, aethon ni i’r tafarn lle roedden yn aros yn socian. Ar ôl hynny aethon ni am wyliau traeth gyda’r plant un tro ond cymysg oedd y tywydd y tro yna. Y tro diwethaf es i Sir Benfro roeddwn yn ymweld â fy ffrindJansydd yn byw yn Llandeilo ac aethon ni i’r arfordir ar ddydd poeth, hyfryd, ym mis Medi a nofio yn y môr.
Y flwyddyn gynt, doeddwn i ddim ar wyliau cerdded chwaith, ond gyda grŵp modrwyo adar. Dydy hynny ddim yn rhywbeth dwi’n gwneud fy hun, ond mi oedd le i fi fynd gyda nhw i ynys Skokholm. Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ynys o’r blaen. Dim rhy bell o Skomer, ond ynys lle dydy o ddim yn bosib mynd am ddiwrnod: yn hytrach na hynny, mynd am wythnos. Sgwennais yr hanes mewn dau flog – dyma’r gyntaf: A wyddoch chi beth? ‘roedd yr wythnos yn ystod yr haf arbennig o boeth a chawson ni yn 2022: bob dydd bron yn boeth a’r haul allan. A’r ynys yn lle braf i dreulio amser oherwydd ei bod hi dipyn yn oerach na’r tir mawr. Dwi’n edrych yn ôl ar yr wythnos yna fel un o’r profiadau gorau dwi erioed wedi cael ynglŷn â gwylio a thynnu lluniau o adar.
(A sori - dim syniad pam mae'r paragraffau mor fler..wedi trio ond dim wedi llwyddo y tro yma)
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home