Dal i fyny: sgwennais hyn y llynedd, 29 Rhagfyr
Wel, mae’r Dolig drosodd a dwi ddim yn gwneud llawer gyda’r Flwyddyn Newydd, Trio anwybyddu’r sŵn y tân gwyllt sydd yn fy neffro i o gwmpas hanner nos. Roedd y Nadolig yn dda: heblaw am salwch meddwl ein mab, sydd yn golygu ei fod yn yr ysbyty eto ac yn waeth na mae o wedi bod o’r blaen, yn anffodus. Felly rhwng y cwcio a’r clirio a thipyn o gymdeithasu, dan ni wedi bod yn ymweld â fo.
Ŵn i ddim be fydd yn digwydd, Y tro yma, mae o wedi gwneud niwed i’w fflat: wedi tynnu cypyrddau oddiwrth y wal, a malu un ohonyn nhw, symud yr oergell a’r rhewgell (i’r stafell mochi?!) ac mi oedd o wedi gadael prydau o fwyd ar y platiau i bydru a drewi, ond wnaethon ni ymweld â’r fflat cyn i hynny ddigwydd a glanhau’r gegin. Rhywfaint, beth bynnag. A dydy o ddim yn derbyn bod ’na cysylltiad rhwng seicosis a chymryd cyffuriau fel canabis, ac mae ’na gysylltiad cryf....
Rhwng pethau Nadoligaidd; a’r ymweliadau a’r cyfarfodydd gyda fo â’r doctoriaid, dwi wedi bod yn trio cadw fy hun yn gall ac yn dengyd i ddarllen. Daeth pecyn bach o lyfrau Cymraeg o Palas Print, y siop lyfrau yng Nghaernarfon. Archebais Gors y Bryniau (Kate Roberts); Dau (Bethan Nantcyll) a Dan Ormes, gan John Alwyn Griffiths, a rhoddais restr o lyfrau Cymraeg i fy mab ac i ffrind rhag ofn eu bod isio gwbod be faswn yn ei hoffi am anhreg Dolig. Ac felly mi ges i Ble Aeth Elen Puw (Linda Wyn) a Paid Deud gan Mari Emlyn. Hyd yn hyn dwi wedi darllen Dan Ormes a Paid a Deud: y ddau yn ardderchog mewn ffyrdd gwahanol.
Mae Ble Aeth Elen Puw yn aros amdanaf, a hwn ydy’r llyfr dan ni wedi ei ddewis ar gyfer cyfarfod nesaf y clwb darllen er dydy’r cyfarfod ddim tan fis Mawrth. Yn rhyfedd, er fy mod wedi dod yn gyfarwydd â iaith y De erbyn hyn, mae’r gair “Ble” yn hytrach na’r fersiwn Ogleddol “Lle” yn dal i sownio mor estron. Ac ar ol y llyfr yna, mae llyfr Kate Roberts yn aros amdanaf a hefyd “Dau”.

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home